GWASANAETHAU | Dydd Sul 8.00am, 9.30am a 11.00am Dydd Iau 11.00am GWELWCH Y MANYLION
Wednesdays | St Giles' Church, Wrexham
Darganfod mwyWednesdays | St Giles' Church, Wrexham
Darganfod mwy24/12/2025 | St Giles' Church, Wrexham
Darganfod mwy31/01/2026 | St Giles' Church, Wrexham
Darganfod mwyYn sefyll yng nghalon Wrecsam mae Eglwys San Silyn; lle o harddwch, gweddi a chroeso i bawb. Ers canrifoedd mae ein twr wedi siapio’r gorwel, gan ennill ei le ymysg Saith Rhyfeddod Cymru. Eto, mae San Silyn yn fwy na thirnod: mae’n gymuned eglwysig fyw lle mae pobl o bob oedran a chefndir yn casglu i addoli, i ddathlu ac i ddarganfod cariad Duw.
P’un a ydych yn ymweld â Wrecsam am y diwrnod, yn archwilio ffydd am y tro cyntaf, neu’n chwilio am gartref ysbrydol, mae croeso i chi yma.
Mae San Silyn yn fan lle mae hanes a gobaith yn cyfarfod. Camwch i mewn a byddwch yn darganfod pensaernïaeth fawreddog, gwydr lliw prydferth, a chanrifoedd o weddi wedi eu gwau i mewn i’r cerrig eu hunain. Mae’r eglwys wedi bod yn lle i Gristnogion addoli ers yr Oesoedd Canol, a heddiw mae’n parhau i fod yn galon sy’n curo i’r ddinas: canolfan o addoli, cerddoriaeth a bywyd cymunedol.
Fel Hwb Cenhadaeth yn esgobaeth Llanelwy, rydym yn falch o fod nid yn unig yn eglwys yn Ardal Genhadaeth Wrecsam, ond hefyd yn adnodd i Wrecsam a’r ardal du hwnt; yn cynnal cyngherddau, yn croesawu ysgolion, ac yn agor ein drysau’n ddyddiol i filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Yn San Silyn rydym yn credu mewn eglwys gynhwysol sy’n agored i bawb:
Byddwch yn rhan o gymuned ein heglwys y tu hwnt i’n gwasanaethau. Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr am ddiweddariadau rheolaidd ar ddigwyddiadau, straeon, a ffyrdd o gymryd rhan.
Ymunwch â ni drwy ddod ar Ddyddiau Sul ac Iau neu fynd ar-lein ar Ddyddiau Mawrth ac Iau pan ddown at ein gilydd i addoli.
Neu galwch i mewn yn ystod yr wythnos i fwynhau heddwch yr eglwys.