GWASANAETHAU | Dydd Sul 8.00am, 9.30am a 11.00am Dydd Iau 11.00am GWELWCH Y MANYLION
Mae bedydd yn un o’r cerrig milltir mwyaf hyfryd mewn bywyd. Ennyd o groeso, gobaith a pherthyn. Yn San Silyn, mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu yn y dathliad hwn, gan groesawu plant ac oedolion fel ei gilydd wrth iddyn nhw gychwyn eu taith mewn ffydd. P’un a ydych yn archwilio bedydd ar gyfer babi newydd, i blentyn hŷn neu i chi’ch hun, rydym yma i’ch tywys chi a’ch cefnogi bob cam o’r ffordd. Mae’n ddathliad o gariad Duw ac yn gyhoeddiad o’ch dymuniad chi (neu ddymuniad eich plentyn) i gerdded yn y cariad hwnnw. Mae pob bedydd yn hynod bersonol, a byddwn yn gweithio gyda chi i wneud y gwasanaeth yn ystyrlon, cofiadwy a llawn llawenydd.
Mae cael eich bedyddio’n golygu cael eich enwi a’ch hawlio yn rhan o rywbeth mwy, teulu o ffydd sy’n ymestyn ar draws amser a lle.
01.
Rydym yn croesawu pobl o bob oedran i gael eu bedyddio, o fabanod a phlant i bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion. Mae bedydd yn nodi dechrau’r daith o ffydd lle mae addewidion a gweithredoedd yr ymgeisydd, neu’r rhieni a’r rhieni bedydd, yn awgrymu eu bod yn cymryd yr addewidion a wnânt o ddifrif.
02.
Wrth drefnu bedydd i blentyn, bydd gofyn i chi ddewis rhieni bedydd, pobl rydych yn ymddiried ynddynt a fydd yn cefnogi ac annog y plentyn yn eu ffydd wrth iddyn nhw dyfu. Mae’n rhaid i rieni bedydd fod wedi eu bedyddio ac, yn ddelfrydol, fod yn aelodau wedi eu derbyn yn yr eglwys. Yn aml iawn mae oedolion sy’n cael eu bedyddio’n dewis noddwr yn lle rhiant bedydd, rhywun a fydd yn cerdded wrth eu hochr ar eu taith yn y ffydd.
03.
Fel arfer, mae bedydd yn digwydd yn San Silyn fel gwasanaeth ar wahân am 1300 ar ddydd Sul. Yn ystod y gwasanaeth bydd dŵr yn cael ei dywallt ar ben yr ymgeisydd fel arwydd o fywyd newydd a glanhad. Byddwch hefyd yn gwneud (neu’n cadarnhau) addewidion am ffydd ac ymrwymiad; addewidion y byddwn yn eich helpu i ddeall a pharatoi ar eu cyfer o flaen llaw.