GWASANAETHAU | Dydd Sul 8.00am, 9.30am a 11.00am Dydd Iau 11.00am GWELWCH Y MANYLION

Cwestiynau Cyffredin

Oes gennych chi gwestiwn am San Silyn, ein gwasanaethau, neu ymweld â’r eglwys? Mae atebion i rai o’r ymholiadau mwyaf cyffredin yma – o hygyrchedd a pharcio i ymholiadau am briodasau a mwy.

Service St Giles Church Wrexham
FAQ for St Giles Church website
St Giles Values

Cwestiynau Cyffredinol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr eglwys, ein gwasanaethau, neu ddigwyddiadau sydd ar y gweill, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych.

Dydd Sul 8:00am – y Cymun Bendigaid Dywededig
Dydd Sul 9:30am – Addoliad i Bob Oedran (Cymun i Bob Oedran ar Ddydd Sul cyntaf y mis)
Dydd Sul 11:00am – y Cymun Bendigaid Canedig gydag organ a chanu gan y gynulleidfa
Dydd Sul 1af y mis 6:00pm – y Cymun Bendigaid yn Gymraeg
Dydd Iau 11:00am – Y Cymun Bendigaid gydag emynau
Gweddi Hwyrol YouTube – wedi ei ffrydio ar-lein, gwasanaeth myfyriol byr y gallwch ymuno ag o lle bynnag yr ydych.

Na – dewch draw! Mae ein gwasanaethau i gyd yn agored i bawb. Yr unig eithriad yw I wasanaethay dinesig neua rbennig mawr lle gallwn gynnig tocynnnau at resymau galluoedd.

Ydy. Mae gennym fynediad gwastad ar gyfer cadeiriau olwyn a chymhorthion symudedd, llyfrau wasanaeth print mawr, a system dolen glywed. Os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch chi, siaradwch ag un o’n tîm croesawu pan fyddwch yn cyrraedd. Mae parcio cyfyngedig ar dir yr eglwys, mae’r mynediad drwy Stryd Efrog cyn 1130 yn unig.

Oes! Mae ein Haddoli I Bob Oedran 9:30am wedi ei lunio gyda phlant a theuluoedd mewn cof. Rydym hefyd yn croesawu ymweliadau ysgol drwy gydol y flwyddyn.

Wrth gwrs. Mae croeso i bawb, p’un a ydych yn gadarn eich ffydd, yn dechrau archwilio, neu ddim ond yn chwildgrydig. Does dim angen I chi wybod beth uw’ wneud – rydym yn galch eich bod yma.

Mae eich rhoddion yn ein helpu ni i gadw’r genhadaeth a gweinyddiaeth yr eglwys hanesyddol, cadw’r eglwys yn agored bob dydd, cynnnal adeilad hanesyddol, cefnogi ein cerddorieaeh ac addoli, darparu gofal bugeiliol, a chynnal gweithgareddau allgymorth yn y gymuned. Mae pob rhodd, beth bynng yw’r maint, yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Mae nifer o ffyrdd o wasanaethu: croesawu ymwelwyr, helpu gyda gweithgareddau plant, ymuno â’r côr, cefnogi ein digwyddiadau, helpu gyda gofalu ymarferol, a chymaint mwy. Siaradwch ag aelod o’r tîm neu defnyddiwch ein ffurlfen gysylltu i ddarganfod mwy.

Cysylltwch â thîm ein swyddfa drwy’r dudalen gysylltu. Mae bedydd a phriodasau’n rhan llawen o’n gweinyddiaeth, ac mae angladdau’n amser pan fyddwn yn cynnig cymorth a gofal. Byddwn yn eich tywys chi drwy’r broses ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Oes. Mae’r eglwys yn agored bob dydd i ywmelwyr archwilio. Gellir trefnu teithiau wedi’u tywys cyn grwpiau. Mae croeso i ymwelwyr edmygu’r bensaernïaeth, gwydr lliw a chofebion, neu oedi’n dawel i fyfyrio.

Mae San Silyn yng nghanol Wrecsam. Mae nifer o feysydd parcio cyhoeddus gerllaw, ac mae’r eglwys o fewn pellter cerdded i orsafoedd trenau a bysiau Wrecsam. Mae parcio ar gael i’r anabl ar gael gerllaw mynedfa’r eglwys, ond mae’r parcio’n gyfyngedig yn nhir yr eglwys, mae’r mynediad drwy Stryd Efrog cyn 1130 yn unig.

Ydym. Mae ein Cymun Bendigaid am 6:00pm ar Sul cyntaf bob mis yn gwbl Gymraeg, a defnyddir deunyddiau dwyieithog mewn gwasanaethau eraill pan fo’n briodol. P’un a ydych yn siaradwr rhugl, yn ddysgwr neu’n ymwelydd, mae crieso i chi.

Ie. Rydym yn ffrydio’n fyw Gymun Bendigiaid Canedig 1100 y Sul ar YouTube bob wythnos, ac yn llwytho Gweddi’r Hwyr ar yr un sianel bob Dydd Mawrth a Dydd Iau. Yn achlysurol, mae gwasanaethau mawr eraill yn cael eu ffrydio’n fyw. Mae hon yn ffordd syml o gysylltu gydag addoli os na allwch fynd yn bersonol.

Mae San Silyn yn adeilad rhestredig Graddfa I. Mae’r gofal am yr eglwys wedi’I rannu rhwng y clerigwyr,wardeiniaid, gwirfoddolwyr ac Esgobaeth ehangach Llanelwy, wedi eu cefnogi gan roddion a grantiau hael. Mae gwaith cadwraeth yn helpu i sicrhau bod yr adeilad hynod hwn yn cael ei gadw fel lle addoli a chroeso i genedlaethau i ddod.

Y cwestiynau mawr

Mae gennym oll gwestiynau mawr… am fywyd, ffydd, a beth mae oll yn ei olygu. Does dim rhaid i chi gael yr atebion i gyd er mwyn perthyn yma. Mae ein heglwys yn lle i archwilio, gofyn a dysgu gyda’n gilydd.

Rydym yn rhan o’r Eglwys yng Nghymru, sy’n perthyn I’r teulu Anglicanaidd byd-eang.. Wrth wraidd ein cred mae newyddion da Iesu Grust, sy’n datgelu cariad Duw at bawb. Rydym yn cagslu o amgylch y Beibl, gweddi, a’r sacramentau, yn enwedig y CYmuned Bendigaid.

Mae Hwb Cenhadaeth yn eglwys o fewn Ardal Ceng=hadaer st’n gwasanethu nid yn unig ei gynulleidfa eu hun ond hefyd yn cefnogi ac yn dapraru adnoddau i Esgobaeth ac Ardal Cenadaeth ehangach. Yn San Silyn, mae hyn yn goygu ein bod wrth gallon addoliu, cerddoriaeth, allgynorth cymuendol, a hyfforddiant, lle sy’n cryfhau cenhadaeth yr eglwys ledled Wrecsam.