GWASANAETHAU | Dydd Sul 8.00am, 9.30am a 11.00am Dydd Iau 11.00am GWELWCH Y MANYLION
Mae angladd yn San Silyn yn amser i ddiolch am fywyd, i drosglwyddo anwylyn i ofal Duw, ac i gael cysur a gobaith yn addewid yr atgyfodiad. Yn San Silyn rydym yma i gerdded gyda chi drwy’r cyfnod anodd hwn, i gynnig cysur, gweddi ac yn rhywle lle gallwch anrhydeddu a rhoi diolch am fywyd oedd yn bwysig iawn.
Mae angladd yn fwy na ffarwel. Mae’n ennyd o rannu straeon, dathlu atgofion, ac ymddiried anwylyn yng ngofal Duw. P’un a yw’r gwasanaeth yn digwydd yn yr eglwys, yn yr amlosgfa, neu gerllaw’r bedd, bydd ein clerigwyr yn gweithio gdya chi, a’ch Cyfarwyddwr Angladdau, i siapio gwasanaeth sy’n adlewrychu’r person rydych yn eu cofio ac yn dod â chysur i’r bobl sy’n galaru.
01.
O’r funud y byddwch yn cysylltu â ni, mae ein clerigwyr a’n tîm bugeiliol yma i’ch cefnogi chi. Gallwn eich helpu chi i gynllunio’r gwasanaeth, i ddewis darlleniadau a cherddoriaeth, a chreu rhywle lle gall teulu a ffrindiau ymgasglu i mewn coffadwriaeth a gobaith.
Mae ein gofal yn parhau y tu hwnt i’r angladd ei hun, mae croeso i chi siarad â ni unrhyw bryd, cynnau cannwyll, neu ymuno â’n gwasanaethau coffáu yn y misoedd a’r blynyddoedd o’n blaenau.
02.
Bydd eich Cyfarwyddwr Angladdau’n cysylltu â ni ar eich rhan fel arfer er mwyn dechrau trefniadau.
Gyda’n gilydd, byddwn yn cynllunio manylion y gwasanaeth, o emynau a gweddïau i deyrngedau ac enydau o dawelwch.
Mae pob bywyd yn unigryw, a byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod y gwasanaeth yn teimlo’n bersonol ac yn ystyrlon.
03.
Mae angladd Cristngol yn cadw lle ar gyfer galar tra bydd hefyd yn cyfeirio at obaith, gobaith atgyfodiad a’r addewid bod cariad yn gryfach na marwolaeth.
P’un a yw’r ffydd wedi bod yn ganolog i fywyd eich anwylyn neu rywbeth roedden nhw’n ei archwilio’n dawel, rydym yn yn anrhydeddu’r daith honno ac yn cynnig gwasanaeth sydd wedi ei wreiddio mewn trugaredd a chariad Duw.
| Rydych wedi siarad â’ch Cyfarwyddwr Angladdau, a fydd yn cysylltu â ni i wneud trefniadau. | |
| Rydych wedi cyfarfod ag aelod o’r glerigaeth i drafod y gwasanaeth a rhannu atgofion. | |
| Rydych wedi dewis darlleniadau, emynau, neu gerddoriaeth sy’n teimlo’n ystyrlon. | |
| Rydych yn gwybod a fydd y gwasanaeth yn digwydd yn yr eglwys, yn yr amosgfa neu ar lannau’r bedd. | |
| Rydych yn ymwybodol i gymorth parhaus sydd ar gael gan ein clerigwyr a thîm bugeiliol. |