GWASANAETHAU | Dydd Sul 8.00am, 9.30am a 11.00am Dydd Iau 11.00am GWELWCH Y MANYLION

St Giles Church
Wedding ceremony at St Giles Church Wrexham
Bride and groom at St Giles Church entrance

Priodasau yn Eglwys San Silyn, Wrecsam

Ychydig iawn o ddiwrnodau sydd mor arwyddocaol â’r diwrnod pan fyddwch chi’n sefyll gyda’r person yr ydych yn eu caru ac yn addo treulio’r dyfodol gyda’ch gilydd. Yn San Silyn, byddai’n anrhydedd gennym fod yn rhan o’r ennyd honno. Mae ein eglwys hanesyddol, sydd wedi bod yn greiddiol i Wrecsam ers canrifoedd, yn cynnig lle prydferth a dwyfol ar gyfer eich seremoni briodas. P’un a ydych yn breuddwydio am ddathliad mawreddog neu wasanaeth cynnes ac agos-atoch syml, mae ein tîm yma i’ch arwain a’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd.

Mae pob priodas yn San Silyn yn unigryw. Mae rhai cyplau’n dewis gwasanaeth traddodiadol wedi ei drwytho mewn hanes ac emynau; mae’n well gan eraill rywbeth mwy personol a modern. Waeth beth yw eich steil, bydd eich seremoni’n ddathliad hynod ystyrlon o gariad, ymrwymiad a ffydd – wedi ei rannu â’r bobl sydd bwysicaf i chi.

Pethau i’w gwybod cyn trefnu

01.

Pwy all briodi yn San Silyn

I briodi yn San Silyn, un o’r pethau pwysicaf sy’n rhaid i chi ei gael yw rhywbeth o’r new cysylltiad cymwys â’r eglwys. Gallai hynny olygu eich bod yn byw yn y plwyf yn awr, eich bod wedi byw yma yn y gorffennol, eich bod wedi cael eich bedyddio neu eich derbyn i’r eglwys yma, neu mae gennych rieni neu nain a thaid sydd â chysylltiad â’r eglwys. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys, peidiwch â phoeni, gallwn eich cymryd drwy’r opsiynau a’ch helpu i archwilio ffyrdd o wneud San Silyn yn rhan o’ch stori.

02.

Camau cyfreithiol ac ymarferol

 

Mae’r mwyafrif o gyplau’n priodi drwy gyhoeddi gostegion, sef gofyniad cyfreithiol traddodiadol lle mae rhywun yn cyhoeddi eich bwriad i briodi yn ystod gwasanaeth y Sul ar dair wythnos wahanol yn y tri mis cyn eich priodas.

Os nad ydych chi neu os nad yw eich partner yn ddinesydd y DU, neu os oes amgylchiadau arbennig eraill, efallai y bydd angen i chi gael trwydded yn lle hynny. Byddwn yn eich tywys chi drwy’r broses sy’n gywir i chi.

03.

Cynllunio eich seremoni

 

O gerddoriaeth a darlleniadau i flodau a ffotograffau, bydd eich priodas yn cael ei siapio o gwmpas yr hyn sydd bwysicaf i chi.

Bydd sgyrsiau cynnar gyda’n tîm yn ein helpu i ddeall eich gobeithion ar gyfer y diwrnod, a gyda’n gilydd awn ati i gynllunio seremoni sy’n bersonol, ystyrlon ac wedi ei wreiddio yn ffydd a thraddodiadau’r Eglwys yng Nghymru.

Eich Rhestr Gadarnhau

 

Mae gan un ohonoch neu’r ddau/ddwy ohonoch gysylltiad cymwys â San Silyn neu ardal y genhadaeth.
Rydych wedi siarad â ni am y gostegion neu drwydded briodas (byddwn yn rhoi cyngor i chi am yr hyn sydd ei angen).
Rydych wedi cwrdd ag un o’r clerigwyr i ddechrau cynllunio eich seremoni.
Rydych yn barod i drefnu dyddiadau ar gyfer eich gostegion a’ch ymarfer priodas.
Rydych wedi ystyried cerddoriaeth, darlleniadau, ac unrhyw elfennau personol yr hoffech eu cynnwys.

Contact